Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Ionawr 2019
Amser:
14.30 -
15.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5029
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Suzy Davies AC Carwyn Jones AC Mandy Jones AC Dai Lloyd AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Graham Rees, Llywodraeth Cymru Tamsin Brown, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Manon George (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Nododd y Pwyllgor y Gorchymyn ynghyd â llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau negyddol arfaethedig ac roedd yn fodlon arnynt. O ran pNeg(5)08, Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â'r UE) 2019, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am esboniad mwy trylwyr pam bod y rheoliadau yn cael eu gwneud ar sail Cymru a Lloegr.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn dyrchafu'r Rheoliadau i fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Hysbysodd y Gweinidog y Pwyllgor fod cyfarfod perthnasol arall yn digwydd yr wythnos hon a byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei hanfon i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod hwnnw.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn perthynas â hynt yr adolygiad i gysylltiadau rhynglywodraethol.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Trafododd y Pwyllgor y papur adolygu a chytunodd i osod adroddiad byr gerbron y Cynulliad.